NUS Awards Scotland

Mae yno nifer o gategorïau y gallwch ymgeisio ynddynt yng ngwobrau eleni. Mae’r rhain wedi eu rhestru isod, ynghyd â meini prawf ar gyfer pob un ohonynt.

Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn

  • Beth yw gweledigaeth undeb y myfyrwyr a sut mae hyn wedi cael ei ddatblygu ac wedi llwyddo i sicrhau cefnogaeth gan randdeiliaid perthnasol?
  • Sut mae’r undeb yn gweithio tuag at sicrhau arferion gorau o ran cynllunio a gosod amcanion?
  • Pa fecanweithiau ymarferol a ddefnyddir i sicrhau fod adborth myfyrwyr yn cael ei ddefnydio a sut gaiff yr wybodaeth hon ei defnyddio i wella’r undeb?
  • Sut mae’r undeb yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at brofiad myfyrwyr?
  • Sut mae’r undeb wedi dangos gwelliant yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, yn nhermau cyfranogiad, dylanwad a strwythurau?
  • Pa ymgyrchoedd ac effeithiau cadarnhaol mae’r undeb wedi eu gweithredu?

Undeb Myfyrwyr Addysg Bellach y Flwyddyn

Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn

  • Beth oedd y problemau oedd yn wynebu cyd fyfyrwyr ar y cwrs?
  • Beth oedd cyfraniad y cynrychiolydd myfyrwyr tuag at eu datrys?
  • Esboniwch beth oedd yr effaith cadarnhaol a wnaethant ar brofiad myfyrwyr.
  • Pam mae nhw’n deilwng o gydnabyddiaeth?

Swyddog Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn

  • Beth mae nhw wedi ei wneud sydd tu hwnt i’r disgwyliadau arferol ar gyfer eu rôl ac o’r herwydd yn haeddu cydnabyddiaeth?
  • Ydyn nhw wedi bod yn ysbrydoliaeth i eraill, ac ym mha ffordd?
  • Pa effaith mae nhw wedi ei chael ar undeb y myfyrwyr, o ran cyrraedd ei nodau ac amcanion, a sut mae’r rhain wedi effeithio ar brofiad myfyrwyr?
  • Sut mae nhw wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r myfyrwyr maent yn eu cynrychioi?
  • Sut mae nhw wedi gwella cynrychiolaeth yn eu maes hwy o’r undeb?

Swyddog Undeb Myfyrwyr Addysg Bellach y Flwyddyn

  • Beth mae nhw wedi ei wneud sydd tu hwnt i’r disgwyliadau arferol ar gyfer eu rôl ac o’r herwydd yn haeddu cydnabyddiaeth?
  • Ydyn nhw wedi bod yn ysbrydoliaeth i eraill, ac ym mha ffordd?
  • Pa effaith mae nhw wedi ei chael ar undeb y myfyrwyr, o ran cyrraedd ei nodau ac amcanion, a sut mae’r rhain wedi effeithio ar brofiad myfyrwyr?
  • Sut mae nhw wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r myfyrwyr maent yn eu cynrychioi?
  • Sut mae nhw wedi gwella cynrychiolaeth yn eu maes hwy o’r undeb?

Aelod Staff mewn Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn

  • Beth mae’r aelod staff wedi ei wneud sydd tu hwnt i ofynion cyffredin y swydd ac o’r herwydd yn eu gwneud yn deilwng o gydnabyddiaeth?
  • Pwy sydd wedi elwa o’u gwaith a’u hymrwymiad?
  • Ydyn nhw wedi bod yn ysbrydoliaeth i eraill, ac ym mha ffordd?
  • Pa effaith mae nhw wedi ei chael ar undeb y myfyrwyr ac ar boblogaeth y myfyrwyr?
  • Sut mae nhw wedi cyfrannu at waith undeb y myfyrwyr, ei nodai a’i amcanion?

Myfyriwr y Flwyddyn

  • Beth mae’r myfyriwr wedi ei wneud i fod yn enghraifft o fyfyriwr eithriadol ac ysbrydoledig ac o’r herwydd yn haeddu cydnabyddiaeth?
  • Pwy sydd wedi elwa o weithgareddau’r myfyriwr?
  • Ydyn nhw wedi bod yn ysbrydoliaeth i eraill, ac ym mha ffordd?
  • Oes yno unrhyw rwystrau mae’r myfyrwyr wedi eu goresgyn i gyflawni’r hyn maent wedi ei wneud, a beth ydynt?
  • Pa effaith mae’r myfyriwr wedi ei wneud ar boblogaeth y myfyrwyr neu’r gymuned leol?
  • Pa lefel o ymrwymiad (yn nhermau amser, adnoddau ac ymdrech) mae’r myfyriwr wedi eu dangos?

Ymgyrch y Flwyddyn

  • Beth oedd yr ymgyrch, a beth oedd yn fwriadu ei gyflawni?
  • Sut oedd yr ymgyrch yn dangos arferion gorau mewn cynllunio, cyfathrebu, gweithio mewn tîm a gwerthuso?
  • Beth wnaeth yr ymgyrch ei gyflawni a pha effaith y gellir ei fesur gafwyd ar eraill yn lleol neu’n genedlaethol?
  • Sut wnaeth yr ymgyrch ddangos creadigrwydd yn y ffordd y cyflawnwyd amcanion yr ymgyrch drwy ddigwyddiadau, gweithgareddau a sianelau cyfathrebu?
  • Sut wnaeth yr ymgyrch ddefnyddio adnoddau o fewn i gorff y myfyrwyr, rhanddeiliaid lleol a/neu’r cyfryngau?

Cyfryngau Myfyrwyr Gorau

  • Sut mae’r cyfrwng sydd dan sylw wedi sicrhau ansawdd tra ar yr un pryd annog cyfranogiad gan fyfyrwyr?
  • Pa fesurau mae’r cyfrwng wedi eu gweithredu i gwrdd â’i amcanion a’r gynulleidfa mae’n ei dargedu?
  • Sut mae’r cyfrwng wedi cael ei ddefnyddio i ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth o faterion myfyrwyr; pa effaith mae hyn wedi ei chael?
  • Pa lefelau o gyfranogiad myfyrwyr sydd yno o ran cynnyrch a diddordeb yn y cyfrwng?
  • Pa enghreifftiau o welliannau a wnaethpwyd yn y flwyddyn a aeth heibio sydd wedi cael eu gweithredu?
  • Sut mae’r cyfrwng wedi annog myfyrwyr ar gyrsiau nad ydynt yn perthyn i’r cyfryngau i gyfrannu?

Myfyriwr Newyddiadurwr y Flwyddyn

  • Sut mae’r myfyriwr newyddiadurwr wedi cymryd gwybodaeth ac wedi ei droi’n gynnwys diddorol o ansawdd uchel o fewn i’r cyfrwng o’u dewis?
  • Sut mae nhw wedi cael effaith gadarnhaol ar boblogaeth y myfyrwyr – gall hyn fod drwy gynnwys y straeon maent wedi ymdrin â hwy neu yn sgil eu hymrwymiad i gyfryngau’r myfyrwyr?
  • Pa fedrau a sgiliau newyddiadurol mae nhw wedi eu dangos drwy eu gwaith?

Clwb neu Gymdeithas y Flwyddyn

  • Pa lwyddiannau mae’r clwb neu gymdeithas wedi eu cael ers Gorffennaf 2012?
  • Beth yw, a sut allwch chi ddangos, y lefelau o gyfranogiad myfyrwyr yn y clwb?
  • Sut mae’r clwb neu gymdeithas wedi gwneud y gorau o’i adnoddau er mwyn cwrdd â’i amcanion a chreu effaith?
  • Sut mae’r clwb neu gymdeithas wedi cyfrannu at brofiad myfyrwyr mewn ffordd gadarnhaol?
  • Pa weithgareddau sydd wedi bod o fudd i boblogaeth y myfyrwyr neu’r gymuned yn ehangach y bu i’r clwb neu gymdeithas gymryd rhan ynddynt neu eu harwain?

Gwobr Perthynas Gymunedol

  • Sut mae undeb y myfyrwyr wedi cael effaith sylweddol ar y gymuned leol?
  • Sut mae’r undeb wedi dangos tystiolaeth o arferion gorau mewn cynllunio, cyfathrebu, gweithio mewn tîm a gwerthuso?
  • Pa dystiolaeth sydd yno o greadigrwydd mewn cyflawni amcanion gwaith drwy ddigwyddiadau, gweithgareddau a sianelau cyfathrebu?
  • Pa dystiolaeth sydd yno o’r gallu i ddefnyddio adnoddau’n effeithiol o fewn i gorff y myfyrwyr, rhanddeiliaid lleol a/neu’r cyfryngau?
  • Pa effaith a grewyd neu newidiadau a wnaethpwyd er budd y gymuned a dargedwyd?

Gwobr Blaengarwch mewn Technoleg

  • Beth oedd yr her a sut aethpwyd ati i’w datrys?
  • Sut mae nhw wedi cyfuno creadigrwydd gyda thechnoleg i gyrraedd y nod?
  • Sut mae nhw wedi creu effaith bositif ar boblogaeth y myfyrwyr?
  • Pa fedrau sy’n seiliedig ar dechnoleg mae nhw wedi eu dangos drwy eu gwaith?

Gwobr Cydraddoldeb ac Amrywioldeb

  • Sut mae’r undeb a’i strwythurau wedi cryfhau gweithgareddau cydraddoldeb ac amrywioldeb mewn meysydd megis recriwtio staff, gweithgareddau myfyrwyr hygyrch a chyfranogiad gan grwpiau na chynrychiolir yn gyfartal mewn democratiaeth myfyrwyr?
  • Sut mae’r undeb wedi dangos datblygiad prosiectau a mentrau blaengar sydd wedi hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb?
  • Sut mae’r prosiectau hyn wedi helpu i wella cydraddoldeb ac amrywioldeb?