NUS Awards Scotland

Oes modd i ni anfon gwybodaeth ychwanegol?

Er mwyn arbed ar weinyddiaeth a phapur NI chewch anfon copïau papur o eitemau ychwanegol. Yr unig eithriad i’r rheol hon yw tystiolaeth ychwanegol ar gyfer y categori Cyfryngau Myfyrwyr Gorau. Cyfeiriwch eich ceisiadau ar gyfer Cyfryngau Myfyrwyr Gorau at: Gwobrau UCM Cymru, d/o Joni Alexander, 2il Lawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Sawl gwobr allwn ni ymgeisio amdani?

Gallwch ymgeisio mewn cynifer o gategorïau ag y mynnwch. Buasem yn eich hannog i ymgeisio ym mhob categori ‘rydych yn gymwys ar eu cyfer.

Oes modd i ni gynnig mwy nag un person ar gyfer y categorïau gwobrau unigol?

Oes. Nid oes cyfyngiadau ar y nifer o unigolion o bob sefydliad a all ymgeisio am y gwobrau unigol.

Mae gennym sawl cyfrwng cyfathrebu. Oes modd i ni ymgeiso gyda hwy i gyd?

Gallwch ymgeisio gyda’ch gwahanol gyfryngau ar wahan os ydych yn dymuno gwneud hynny. Neu os ydynt i gyd yn perthyn i’r un brand, gallwch gyflwyno’r cwbl gyda‘i gilydd.

Nid yw 1000 o eiriau yn ddigon i mi ddweud popeth sydd gen i i’w ddweud. Pam ydych chi’n cyfyngu ar y nifer o eiriau?

Dylai cais da fod yn eglur a chryno. Mae’r cyfyngiad ar y nifer o eiriau yn eich helpu i feddwl ynglŷn â’r agweddau pwysicaf i’w cynnwys yn eich henwebiadau.

Nid ydym yn chwilio am yr undeb neu’r unigolyn sydd wedi gwneud y mwyaf, na’r un sy’n gallu ‘sgrifennu’r mwyaf ynglŷn â’r hyn sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Gellir gwneud hyn mewn 1000 o eiriau neu lai.

Mae ‘sgrifennu’r hyn sydd gennych i’w dweud yn gryno’r un fath â chyflwyno cais am swydd, ac mae’n gyffredin ar gyfer gwobrau eraill hefyd. Meddyliwch sut y byddwch yn ‘sgrifennu a’r pwyntiau ‘rydych yn eu gwneud. Dywedwch fwy gyda llai.

Ond beth os ydw i eisiau ychwanegu rhywbeth nad yw’n ffitio i mewn gyda’r meini prawf?

Y meini prawf yw’r hyn a roddir i’r beirniaid er mwyn iddynt osod sgôr ar gyfer pob cais. Os ydych chi eisiau ychwanegu rhywbeth nad yw’n gweddu gyda’r meini prawf, gwiriwch os ydych chi’n ymgeisio am y wobr gywir. Ystyriwch o ddifrif os yw’r hyn ‘rydych yn ei gynnwys yn ychwanegu gwerth at eich henwebiad.

Beth sydd angen i mi ei gynnwys yn fy nghais?

Ni chaiff y gwobrau hyn eu beirniadu ar faint ‘rydych yn ei gyflwyno; cânt eu beirniadu ar ansawdd eich cyflwyniad. Gwnewch yn sicr nad ydych yn ei gadael hi tan y funud olaf cyn cyflwyno eich cais!

Gallwch restru popeth ‘rydych wedi ei wneud, ond byddai’n llawer mwy buddiol pe baech yn adrodd stori’r effaith ’rydych wedi ei chreu ac yn cwrdd â’r meini prawf. Peidiwch ag anghofio darllen eich henwebiad a chael rhywun arall i’w wirio cyn ei gyflwyno, er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys popeth y dylai ei gynnwys. Eich ffurflen enwebu yw’r un cyfle sydd gennych i wneud argraff ar y beirniaid gyda’ch gwaith.

Oes rhaid i mi ail-gyflwyno fy enwebiad ar gyfer Gwobrau UCM?

Oes. Dim ond enillwyr Gwobrau UCMC sy’n cael eu cynnwys yn awtomatig ar gyfer Gwobrau UCM.

Peidiwch â gofidio. Cynhelir y ddefod wobrwyo ar gyfer Gwobrau UCMC ymhell cyn cau enwebiadau ar gyfer Gwobrau UCM. Byddwch yn gwybod os ydych wedi ennill neu os oes angen i chi ail-gyflwyno ar gyfer Gwobrau UCM.

Ble a phryd mae’r ddefod?

Cynhelir y ddefod ar nos Fercher 13 Mawrth yng ngwesty’r Hilton, Casnewydd.

Caiff pob ymgeisydd sydd ar y rhestrau byr wahoddiad i’r ddefod.

Fyddwn ni’n derbyn adborth os ydym yn aflwyddiannus?

Ni allwn sicrhau y gallwn ddarparu adborth ar bob ymgais aflwyddiannus oherwydd y nifer o geisiadau ‘rydym yn eu rhagweld. Serch hynny, ‘rydym yn bwriadu darparu adborth ar gyfer pob cais sy’n cael eu cynnwys ar y rhestrau byr.

At bwy ddyliwn i gyfeirio unrhyw gwestiynau?

Anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 02920 435 390.