Helo a chroeso i Wobrau UCM Cymru 2016!
Rydym yn falch iawn i’ch gwahodd i gyflwyno enwebiadau ar gyfer rhaglen wobrau UCM 2016. Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Gwobrau UCM wedi bod yn dwyn sylw at y gwaith mae undebau myfyrwyr yn ei wneud, ac eleni rydym yn gwneud hynny’n fwy eglur fyth. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i undebau myfyrwyr ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am y pethau anhygoel maent yn eu gwneud o ddydd i ddydd. Mae yno wobrau ar gyfer undebau myfyrwyr, swyddogion a staff mewn addysg bellach ac uwch, ar draws eich holl weithgareddau, o ymgyrchu ac amrywioldeb i fenter a chyfleoedd myfyrwyr.
Llynedd, rhoddodd Gwobrau UCM gydnabyddiaeth i nifer fwy ac amrywiaeth ehangach o undebau myfyrwyr nag erioed o’r blaen. Nid canfod pwy sydd orau yw diben y gwobrau hyn, ac nid ydynt ar ffurf cystadleuaeth. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i rannu arferion ardderchog, dwyn sylw at ganlyniadau gwych a chydnabod y pethau anhygoel mae undebau myfyrwyr yn eu gwneud i newid bywydau myfyrwyr yn ddyddiol.
Eleni, mae’r pwyslais ar undebau myfyrwyr ac mae’n bryd i chi fynd ati i enwebu eich un chi…